Ardal Brawf Gwent


Wedi'ch Dedfrydu?

Mae'r adran hon ar gyfer pobl sydd wedi troseddu a'u teuluoedd a'u ffrindiau. Bydd yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych gan nodi'r hyn a ddisgwylir ohonoch chi - neu'ch perthynas neu'ch ffrind.

Gorchmynion

Pa gosb y mae'n rhaid i bobl ei chael yn y gymuned am eu tramgwyddau. Goruchwyliad prawf, gwaith di-dāl er budd y gymuned a thriniaeth a phrofion cyffuriau.

Rhaglenni achrededig

Cyrsiau heriol y mae'n rhaid i bobl sy'n parhau i gyflawni troseddau eu mynychu fel rhan o'u gorchymyn. Yn gweithio i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithredu fel nad ydynt yn troseddu.

Tagio

Yr hyn sy'n digwydd pan fydd pobl ar gyrffyw - 'wedi'u tagio'. Ffordd o gyfyngu ar ryddid - yn debyg i 'arestiad ty'. Gall roi ymdeimlad newydd o strwythur neu ddisgyblaeth i bobl yn eu bywyd.

A ydych yn y carchar?

Sut y bydd y gwasanaethau prawf yn cadw mewn cysylltiad ā phobl tra eu bod yn y carchar. Gwybodaeth ynghylch goruchwylio pobl wrth iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar.

Hosteli

Y rheolau y mae'n rhaid i bobl eu hufuddhau pan fydd yn rhaid iddynt aros mewn hostel brawf a/neu hostel fechnļaeth. Trefn ddyddiol mewn gwesty.

Angen cymorth?

Manylion cyswllt gwasanaethau cyngor a chymorth cenedlaethol ar gyfer pobl ā phroblemau a all fod yn gysylltiedig ā'u tramgwyddau e.e. camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, dyled, tai, trais yn y cartref, iechyd.

Mae dedfryd gymunedol, neu ddedfryd nad yw'n ddedfryd o garchar, yn golygu bod pobl yn cyflawni eu cosb yn y gymuned e.e. nid yn y carchar.

Os cewch unrhyw rai o'r gwasanaethau prawf a restrir yma, yna byddwch o dan oruchwyliad uniongyrchol y gwasanaeth prawf yn y gymunedac eithrio ar gyfer 'tagio'.

brig y tudalen
y tudalen nesaf
Bobby WorldWide Approved AAA Bobby WorldWide Approved 508 W3C-WAI Level Triple-A W3C Valid CSS