Ardal Brawf Gwent


Mae Prawf yn Gweithio

Bydd yr adran hon yn amlinellu prif feysydd ein gwaith gyda thramgwyddwyr. Mae'n rhoi manylion ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda gwasanaethau prawf, megis ynadon, staff llysoedd ac asiantaethau gwirfoddol.

Adroddiadau'r Llysoedd

Wedi'u hysgrifennu gan staff prawf i'w defnyddio yn y llysoedd. Gwybodaeth am bobl a gaiff eu cyhuddo o dramgwydd. Yn helpu ynadon a barnwyr i wneud penderfyniadau o ran cosbau.

Gorchmynion

Wedi'u gwneud gan y llysoedd pan ddyfernir rhywun yn euog o dramgwydd. Yn rhoi manylion am gosb pobl yn y gymuned - goruchwyliad prawf, gwaith di-dâl er budd y gymuned a gwaith trin a phrofi cyffuriau.

Rhaglenni achrededig

Cyrsiau ar gyfer pobl sy'n parhau i gyflawni tramgwyddau. Gallant atal pobl rhag aildroseddu. Yn gweithio i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithredu.

Tagio

Ffordd o gyfyngu ar ryddid - yn debyg i 'arestiad ty'. Clymir 'tag' electronig i'r arddwrn neu'r pigwrn. Gall roi ymdeimlad newydd o strwythur neu ddisgyblaeth i bobl yn eu bywyd.

Carcharau

Gwaith gyda charcharorion i'w paratoi i gael eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned. Yn darparu adroddiadau i helpu Rheolwyr Carcharau i wneud penderfyniadau ynghylch rhyddhau carcharorion. Yn goruchwylio carcharorion wrth iddynt gael eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned.

Hosteli

Ar gyfer pobl y mae angen i staff prawf eu goruchwylio fwy pan fyddant yn cyflawni eu dedfryd tra eu bod yn byw yn y gymuned. Yn cynnwys pobl ar fechnïaeth neu wrth iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar.

Amrywiaeth

Mae Ardal Brawf Gwent yn ymrwymedig i gynwysoldeb, cydraddoldeb a thegwch, nad yw cyfiawnder syml yn bosibl hebddynt.

Gwasanaethau eraill

Gwasanaethau cymorth sy'n helpu tramgwyddwyr i fyw bywydau heb drosedd. Gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr a gwaith gyda throseddau difrifol.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yn cwblhau eu cosb yn y gymuned - ac yn mynd â hwy yn ôl i'r llys i gael dedfryd bellach os nad ydynt yn ei chwblhau.

Rydym yn gweithio hefyd i atal pobl rhag cyflawni tramgwyddau eraill gan fod llawer o bobl yn parhau i gyflawni troseddau eraill.

Beth sy'n atal pobl rhag aildroseddu?

brig y tudalen
y tudalen nesaf
Bobby WorldWide Approved AAA Bobby WorldWide Approved 508 W3C-WAI Level Triple-A W3C Valid CSS